Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Hydref 2016
Amser: 09.00 -
10.34
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3761
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Mike Hedges AC Eluned Morgan AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC Mark Reckless AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol Margaret Davies, Llywodraeth Cymru Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Lakshmi Narain (Cynghorwr Technegol) |
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC.
1.2 Croesawodd y Cadeirydd Lee Waters AC, a oedd yn bresennol yn dirprwyo ar ran David Rees AC.
Nid oes unrhyw bapurau i’w nodi.
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol; Margaret Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr - Cyllidebu Strategol, Llywodraeth Cymru; ac Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr - Trysorlys, Llywodraeth Cymru.
3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i ddarparu nodyn ar lefel y benthyca neu ddyled a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.